R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Mae'r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Keith Davies (Llanelli):Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cyflwr yr undeb cyn y refferendwm yn yr Alban ddydd Iau? OAQ(4)1816(FM)
2. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar brentisiaethau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(4)1823(FM)
3. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar gapasiti'r rheilffyrdd ledled Cymru? OAQ(4)1819(FM)
4. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y canllawiau a roddwyd i awdurdodau lleol o ran cofio'r rhai a fu farw yn gwasanaethu eu gwlad, gan gyfeirio'n benodol at senotaffau a chofebion rhyfel? OAQ(4)1828(FM)
5. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fentrau Llywodraeth Cymru i alluogi pobl ifanc i fwynhau amgylcheddau di-fwg? OAQ(4)1827(FM)
6. Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar warchod caeau chwarae ysgolion? OAQ(4)1831(FM)
7. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael ynghylch y goblygiadau i Gymru o'r Bartneriaeth Masnach a Buddsoddi Trawsatlantig arfaethedig? OAQ(4)1825(FM)
8. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar gefnogaeth blynyddoedd cynnar i blant difreintiedig o dan 5 oed? OAQ(4)1822(FM)
9. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y ddarpariaeth o wasanaethau gofal llygaid yng Nghymru? OAQ(4)1826(FM)
10. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd dros weddill tymor y Cynulliad 2014-15 i fynd i'r afael â masnachu pobl yng Nghymru? OAQ(4)1824(FM)
11. Elin Jones (Ceredigion): Pam y penderfynodd Llywodraeth Cymru i dynnu cyllid oddi wrth y gronfa ariannol wrth gefn i brifysgolion? OAQ(4)1821(FM)W
12. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar lefelau Clostridium Difficile yng Nghymru? OAQ(4)0069(AC)W
13. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau iechyd yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)1815(FM)
14. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y tîm o Gymru sy’n croesi capan iâ yr Ynys Las heb gymorth gydag aelod sydd wedi colli ei goes? OAQ(4)1817(FM)
15. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Pa gamau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo Gogledd Cymru yn uwchgynhadledd ddiweddar NATO? OAQ(4)1814(FM)